Wrth gyrraedd maes parcio sy’n rhan o’r cynllun, ffoniwch 0345 505 1155 ar eich ffôn symudol. Cost yr alwad fydd y gyfradd genedlaethol arferol, sydd wedi ei gosod gan eich darparwr symudol, a dylai fod yn rhan o’ch pecyn munudau.
Os ydych yn gwneud yr alwad o ffôn nad yw wedi ei gofrestru fel eich ffôn symudol, gofynnir i chi roi eich rhif aelodaeth (rhif symudol neu linell arferol) a’ch PIN pedwar rhif/Cyfrinair.
Nid yw cost galwadau i rifau 03 yn costio mwy na galwadau i rif 01 neu 02 a rhaid iddyn nhw gyfrif tuag at unrhyw funudau cynwysedig yn yr un modd â rhifau 01 a 02. Am fwy o wybodaeth ewch i OFCOM erthygl.
Ffoniwch 0345 505 1155 o unrhyw ffôn. Os nad ydych yn defnyddio eich ffôn cofrestredig, bydd gofyn i chi roi eich rhif ffôn a'ch PIN/Cyfrinair. Byddwn yn canfod a oes gennych gyfnod aros ar waith ac yn cynnig ei estyn.